CYFLWYNIAD

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli’r 22 o awdurdodau lleol sydd gyda ni yng Nghymru, ac maeawdurdodau’r tri pharc cenedlaethol, y tri awdurdod dros feysydd tanau ac achub, a’r pedwar awdurdod heddlu yn aelodau cyswllt. 

 

2.        Mae hi’n anelu at gynrychioli’r awdurdodau lleol yn rhan o fframwaith polisïau sy’n ateb gofynion blaenoriaethu allweddol ein haelodau ac yn darpau amrediad eang o wasanaethau sy’n ychwanegu at werth Llywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

 

3.        Yr hyn sydd wedi’i roi ar waith a’i weithredu hyd yn hyn:

 

 

4.        Mae’r ddeddfwriaeth ar Deithio Llesol, ochr yn ochr â Deddf Llesiant yn mynnu newid sylweddol o ran meddylfryd ac ethos sefydliadau ledled Cymru o ran coleddu egwyddorion datblygu cynaladwy. Er taw ar ysgwyddau cyrff cyhoeddus Cymru mae’r dyletswyddau cyfreithiol, mae rhan helaetho o’r gweithgaredd yn cynnwys partneriaid ar draws y sectorau i gyd.

5.        Mae hynny’n cynnwys pob rhan berthnasol o’r sustem sy’n rhychwantu’r datblygwyr a’r cymunedau eu hunain. O ganlyniad, does dim ond disgwyl cromlin ddysgu tra sylweddol yn nyddiau cynnar rhoi gofynion radical y ddeddf ar waith. Mae profiad llawer ALl yn ystod eu rhan yn rhaglen mabwysiadwyr cynnar Deddf Llesiant, dan arweiniad CLlLC yn dystiolaeth o hynny. Dim ond ar ôl mynd i’r afael â’r egwyddorion ar draws amrediad o wasanaethau y daeth y cyfleoedd a’r rhwystrau yn amlwg.

6.        Mae CLlLC, felly, yn croesawu penderfyniad y pwyllgor hwn i adolygu’r cynnydd ynglŷn â hyn gan ei bod yn gyfle, nid yn unig inni ddysgu yn sgîl y profiadau gorau, ond i ddeall, hefyd, yr anawsterau hynny a ddaeth i’r amlwg.  Cafodd Deddf TLl ei chyflwyno, wrth gwrs, ac iddi gefndir o brinder adnoddau sydd, yn ddiau, wedi bod yn ddylanwad ar hynny o gynnydd sydd wedi bod hyd yma. Yn wir, mae gwasgfa wedi bod ar wariiant ar drafnidiaeth yn gyffredinol a rhaid oedd gwneud penderfyniadau anodd iawn ar raddfa leol.

7.        Serch hynny, mae hi’n bwysig bwrw ailolwg ar y ddelfryd mae proses teithio llesol yn ei sefydlu ymhlith ALl’au, ynghyd â’r manteision ehangach i gymdeithas, i sicrhau parhâd dealltwriaeth glir sy’n gyffredin inni i gyd ynglŷn â’r rheswm pam fod y gwaith yma yn hanfodol ar gyfer cymunedau ar hyd a lled Cymru.

8.        Wrth reswm, mae cyflwyno Deddf TLl wedi golygu bod rhaid i ALl’au ailddosrannu eu hadnoddau - o ran gweithwyr a chyllidebau – er mwyn cyflawni’r ymarferion rhestru ar gyfer cynhyrchu’r map llwybrau Teithio Llesol sydd gyda ni, yn bennaf, ynghyd â’r map rhwydwaith cyfun. Doedd yr arian o Gronfa Trafnidiaeth Leol (CTL) Llywodraeth Cymru ddim yn ddigon i gynnal costau’r broses yn achos llawer ardal ac felly bu raid defnyddio adnoddau lleol. Mae cost cyfleoedd ymhlyg yn hyn i gyd.

9.        Mae rhai ALl’au yn awgrymu bod newid o ran meini prawf CTL a’r drefn gyllido yn golygu bod tuedd mai cynlluniau sydd wedi eu pennu yn llwybrau TLl  yn unig sy’n cael eu hyrwyddo. Efallai bod y canolbwyntio ar yr aneddiadau mwyaf wedi arwain, yn anfwriadol, at amddifadu cymunedau gwledig, bychain a llwybrau rhyngdrefol.

 

10.     Yn benodol, mae datblygu’r broses fapio wedi codi nifer o broblemau. Mae rhai ALl’au wedi adrodd iddyn nhw gael trafferthion ynglŷn ag amseru’r arweiniad perthnasol o gymharu ag ufuddhau i amserlenni a materion o eglurder a manylder hwnt ac yma.  Mae angen pennu cydbwysedd rhwng yr hyn sy’n gyfarwyddol, gan ddiddymu arloesedd lleol ac weithiau’n cymell agwedd o gyflawni minimwm ochr yn ochr ag agwedd sy’n llai caeth ond yn rhoi cyfle i’r goreuon i allu ffynnu. Boed a fo am hynny, mae’n hanfodol cael yr arweiniad cywir yn ei le ar yr adeg iawn fel bo modd i ALl’au allu cynllunio’u hadnoddau ar gyfer cyflawni yr hyn sydd ei angen.

11.     Mae angen mireinio’r arweiniad ar Ddylunio yn ogystal, hynny er mwyn rhoi ystyriaeth i’r adborth oddi wrth rhanddeiliad ac yn arbennig gan beirianwyr/swyddogion ynglŷn ag addasrwydd rhai o’r cynigion yn ogystal â’u profiadau ynglŷn â rhoi rhai o’r elfennau dylunio llai adnabyddus ar waith. Mae angen enghreifftiau hefyd mewn unrhyw ddiweddariad – o Gymru yn ddelfrydol, ond o’r DG o leiaf - yn yr achosion hynny lle bo elfennau dylunio wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus.

12.     Roedd prinder manylion mewn rhai rhai adrannau o’r Arweiniad ar Wireddu (e.e. faint o ddata i’w casglu/cyflwyno ar y mapiau) ac mae hynny’n debygol o lesteirio ymdrechion i sicrhau cysondeb ar draws y wlad gyfan.  Byddai diffiniadau cadarnach wedi hyrwyddo rhagor o sicrwydd i’r ALl’au trwy’r broses.  Bydd angen manylion cliriach ynglŷn â swyddogaeth archwiliadau ar gyfer proses INM ar gyfer unrhyw ail adroddiad.

13.     Roedd costau paratoi’r mapiau yn uwch na’r hyn oedd wedi ei amcangyfrif ac, o ganlyniad, roedd rhaid i’r ALl’au gyfrannu at yr hyn a ddyrannwyd gan y llywodraeth i allu gorffen y pecynnau gwaith – ac mewn llawer achos rheidrwydd i gomisiynu ymgynghorwyr allanol i gwblhau’r gwaith ar eu rhan.  Fe ddylai buddion hirdymor hybu symudiad moddol olygu bod buddsoddi mewn isadeiledd a hyrwyddo teithio llesol yn arwain at werth am yr arian; ond bydd hynny’n galw am fuddsoddi parhaus a gwerthfawrogiad o natur hirdymor unrhyw newid o ran ymddygiad.  O’r herwydd go brin y bydd canlyniadau yn nhermau symudiad moddol yn tynnu sylw ar unwaith.

14.     Mae angen rhagor o bwyslais, hefyd, ar ofalu bod yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn cael ei marchnata mewn modd y mae aelodau o’r cyhoedd yn ei deall a gweithredu arni. Fe ddylid gweld hyn yng nghyd-destun y buddsoddiad sy’n cael ei pharatoi ar hyn o bryd ar gyfer proses y metro ynghyd â phroses y brandio.

 

15.     Polisi Teithio Llesol ehangach Effeithiol:

 

16.     Un o’r pryderon a gafodd eu mynegi yw nad ydy teithio llesol wedi ei gyfuno’n fwy effeithiol ar draws yr amrediad cyfan o weithrediadau’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Dydy hi ddim yn ymddangos bob amser ei fod yn ffactor yr eir i’r afael ag e mewn cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd nac ar gyfer yr isadeiledd y tu hwnt i dalarau’r datblygiadau. Er bod gan y gyfundrefn gynllunio ei rhan ynglŷn â defnyddio cytundebau Adran 106 lle bo modd, mae gofidiau parhaus ynglŷn â hyfywedd – yn enwedig tiroedd ar gyfer codi tai – yn codi pryderon. Y canlyniad cyndyn hyd yma yw anallu Cynlluniau Datblygu Lleol i drefnu cyflenwad hyfyw o dir adeiladu am gyfnod o bum mlynedd. O ganlyniad ceir llawer o drafodaethau lleol, anodd gyda datblygwyr ynglŷn ag anghenion y broses gynllunio yn wyneb y trafferthion ynglŷn â hyfywedd. Heb ganiatâd cynllunio, cyfyngedig yw’r adnoddau ar gyfer gweithredu, yn enwedig lle bo bo rhaid rhoi blaenoriaeth i’r angen am dai fforddiadwy.

17.     Mae cyflwyno cyllid ar gyfer gwaith datblygu yn rhan o Gronfa Trafnidiaeth Leol i’w groesawu; ond mae angen bod arwyddion clir i’r ALl’au ynglŷn â maint y cyllid sydd ar gael yn yr hirdymor i ganiatáu dull strategol, cyfun o fynd ati i ddatblygu’r isadeiledd. Un anhawster ynglŷn â’r cyhoedd yn dod wyneb yn wyneb â mapiau yw bod ALl’au yn gyndyn o godi gobeithion pobl ynglŷn â’r hyn mae modd ei gyflawni yn y tymor canol.  Mae hyn, o bosibl, wedi arwain at ddiffyg uchelgais sy’n cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau; eithr pan fo ALl’au heb fawr o hyder y bydd adnoddau ar gael, dydy hi ddim yn afresymol iddyn nhw gynllunio yn ôl hynny.  Efallai nad dyma oedd uchelgais y deddfu: ond mae’n sefyllfa ddealladwy o gofio mai ychydig y mae’r cyhoedd yn ei wybod am y broses a gall greu dryswch i ddefnyddwyr nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r modd y dylai’r sustem weithio.

 

18.     Camau gweithredu ar gyfer gwneud y ddeddf yn fwy effeithiol

 

19.     Mae’n ymddangos bod trafferthion wedi bod ynglŷn â chefnffyrdd a’r rhannu cyfrifoldebau rhwng gwahanol asiantaethau.  Mae galw am broses fwy clir yn y mater yma ynghyd ag eglurder ynglŷn â hawliau ALl’au i ymgynghori ynglŷn â newidiadau ar gefnffyrdd.

20.     Mae targedu’r aneddiadau mwyaf yn ymateb digon dealladwy i’r angen am sicrhau bod adnoddau prin yn cael eu defnyddio’n effeithiol. Serch hynny, mae iddo’r canlyniad gwrthnysig posibl bod cymunedau gwledig, bychain yn cael eu rhoi o’r neilltu lle bo angen wedi dod i’r golwg, ynghyd â chyfeirio ymdrechion at leoedd eraill lle nad yw’r anghenion mor ddwys.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos y Gymru wledig lle bo cysylltiadau pentrefi bychain â chanolfannau mwy, dros bellterau fwy maith, dan anfatais, o bosibl.

21.     Mae angen hefyd am ragor o hyfforddiant a chefnogaeth ar draws amrediad o gylchoedd proffesyddol er mwyn cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.  Mae’n fater hanfodol, o safbwynt llwyddiant y ddeddf, bod pob cyfundrefn yn deall y goblygiadau a’r manteision ar lefel corfforaeth.

22.     Mae gofyn am ragor o waith hefyd i sicrhau’r ALl’au ar fater cloriannu’r cynlluniau euraid eu safon ochr yn ochr â chynlluniau mwy manteisgar ond a allai fod yn fwy tebygol o gael eu cyflawni.  Er nad yw hi o fantais i neb i ddal ati i ddatblygu isadeiledd sy’n annigonol, ar y llaw arall, mae hi’n hanfodol eu bod nhw’n datrys y peryglon cyfredol, rhwystrau cysylltu, ac ati, yn briodol ac yn gymesur. Mae’n amlwg bod angen gwneud hyn yn gam tuag at gyflawni’r gofynion yn llawn ond mae angen iddo fod yn rhan o’r daith yr un pryd. Mae sicrwydd hirdymor ynglŷn â’r adnoddau a fydd ar gael yn elfen hanfodol arall ym mhroses cynllunio ar gyfer yr hirdymor.

 

23.     I ba raddau mae’r ddeddf yn werth am yr arian ac i ba raddau bydd hi’n parhau felly?

 

24.     Un feirniadaeth sydd wedi ei mynegi ynglŷn â’r broses yw mai ychydig iawn o adnoddau ychwanegol a ddaeth yn ei sgîl ac, o’r herwydd, rhaid oedd ailddosrannu adnoddau mewnol yr ALl’au. I bob diben, mae hyn wedi golygu symud oddi wrth faterion gwaith datblygu llwybrau er mwyn dod i ben â phrosesau mapio ac archwilio.  Dim ond os bydd yr adnoddau ychwanegol ar gael i wireddu’r uchelgais mae’r ddeddf yn ei fynegi y caiff y broses ei phrofi yn fuddsoddiad buddiol yn y pen draw. Yn y cyfamser, fodd bynnag, bu yn achos nifer o drafferthion y tymor byr.

25.     Bydd rhaid wrth gymorth cynlluniau incwm i gynnal y buddsoddiadau cyfalaf hyn – megis ymgyrchoedd newid ymddygiad a gwaith cynnal a chadw.  Mae’r ALl’au yn ei chael hi’n anodd cyllido unrhyw waith hyrwyddo lleol ac mae cyllidebau cyfathrebu/meithrin cysylltiadau wedi eu cwtogi’n sylweddol yn y rhan fwyaf o’r ALl’au.  Mae hyn yn golygu bod y prosesau ymgynghori sydd wedi eu cynnal, ar brydiau, wedi ei chael hi’n anodd cyrraedd y tu hwnt i gylch y bobl weithgar a’r rhai sy’n deall yr hyn  sydd ei angen ar weddill y gymuned i ddod yn fwy gweithgar.

26.     Onibai bod y broses newid ymddygiad yma’n rhedeg yn gyfochrog, mae perygl y bydd y ffaith fod yr isadeiledd heb ei datblygu a heb gael ei defnyddio rhyw lawer yn datblygu i fod yn ffon ar gyfer lladd ar y cynghorwyr am ei fod yn arwydd o fuddsoddi gwasraffus. Fe allai hynny gael effaith negyddol ar yr ymagwedd leol tuag at y math yma o waith. Oni fydd darpariaeth ar gyfer gwaith cynnal a chadw – a’r llwybrau’n dirywio -  dyna waethygu’r sefyllfa eto fyth.

27.     Mae manteision ehangach cymunedau mwy iach a rhagor o gymunedau wedi eu cysylltu i’w gweld yn aml mewn termau ariannol y tu hwnt i awdurdod lleol.  Yn hynny o beth fe ddylid rhoi ystyriaeth i’r effeithiau ariannol ehangach ac ystyried ailddosrannu cyllid o faes iechyd.

 

28.     Asesu effeithiolrwydd polisi ehangach teithio llesol o ran cynorthwyo ynglŷn â gwireddu gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan gynnwys y cynllun gweithredu ar deithio llesol:

 

29.     Roedd y Cynllun Gweithredu yn ddefnyddiol yng ngolwg yr awdurdodau lleol ar ddechrau’r broses am ei fod yn amlinellu’r ffordd roedd Llywodraeth Cymru’n bwriadu rhoi’r ddeddf ar waith. Daeth peth adborth i law i’r perwyl y gallai cynllun mwy hirdymor fod o fudd; pe bai modd cael arwydd o faint yr adnoddau a allai fod ar gael. Mewn rhai rhannau o’r DG mae swm/canran benodol o’r gyllideb trafnidiaeth yn cael ei neilltuo i’r mater yma ac fe allai rhyw arwydd o hynny yn y dyfodol fod yn ddefnyddiol. Byddai hynny’n anfon neges glir i’r awdurdodau lleol ynglŷn â phwysigrwydd y mater yma yng ngolwg Llywodraeth Cymru.

 

30.     Gweithrediadau Bwrdd Teithio Llesol

 

 

31.     Mae barn ar led y gallai’r bwrdd wneud y tro â chynrychiolaeth o blith ymarferwyr ym maes llywodraeth lleol yn ei weithgareddau ac y dylid, o leiaf, weld rhagor o bapurau’n cael eu dosbarthu ynghyd â darparu cyfleoedd i ddylanwadu ar y materion sy’n cael ei sylw.

 

32.     Ydy maes teithio llesol wedi ei gyfuno’n effeithiol yn rhan o bolisïau ehangach Llywodraeth Cymru a maes llywodraseth leol?:

 

 

33.     Mae cyflwyno Deddf Llesiant a’r hyn mae hi’n ei ddeddfu yn mynnu bod newid o bwys mawr yn y modd mae pob asiantaeth gyhoeddus yn dirnad y materion hyn ac yn mynd i’r afael â nhw. Yn achos rhai awdurdodau penodol, mae yna symudiad at edrych ar bob gweithgaredd sy’n ymwneud â’r ffyrdd o safbwynt yr angen am ddirnadaeth o oblygiadau/cyfleoedd teithio llesol yng nghyd-destun gwaith cynnal a chadw neu ddatblygiadau newydd. Yn ychwanegol at hynny, fe ddylai’r gwaith ar ailwampio PCC, sydd i ddod yn fuan, roi mwy o sicrwydd i’r cynllunwyr ynglŷn â’r ymagwedd tuag at y pwnc hwn. Wrth gwrs, fe all yr anawsterau parthed hyfywedd tiroedd ar gyfer adeiladu - a‘r diffygion ynglŷn â chyflenwad ar gyfer pum mlynedd yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd - fod yn rhan o’r anhawster ynglŷn â gofalu  bod yr isadeiledd angenrheidiol yno ar gyfer datblygiadau newydd. Mae hi’n hanfodol bod Corff yr Arolygwyr Cynllunio’n hyrwyddo gofynion teithio llesol pan fo apêl ynglŷn â chais cynllunio.

34.     Diau y bydd eisiau rhagor o sylw i ofalu bod amrediad o gylchoeddd proffesyddol yn deall gofynion y ddeddf - ac yn eu cyflawni - ar draws amrediad o asiantaethau a chylchoedd y trydydd sector i hwyluso hynt y rhaglen. Mae angen rhoi sylw i’r modd mae diwallu’r anghenion ynglŷn â’r hyfforddiant hyn fesul rhanbarth; fel bod gan yr ymarferwyr a’r cynghorwyr yr wybodaeth a’r medrau angenrheidiol.

 

 

 

 

 

 

 

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

 

Craig Mitchell

Craig.mitchell@wlga.gov.uk

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG